Amdanom
Sefydlwyd Siop Inc nȏl yn 2004, rydym yn siop lyfrau annibynnol sy’n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg/eig, rydym hefyd yn gwerthu papurau bro a chylchgronau ynghŷd a cardiau cyfarch a phrintiau. Rydym yn fusnes teuluol ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ac erbyn hyn rydym yn cynllunio ac argraffu nifer o gardiau cyfarch a phrintiau ein hunain. Rydym yn ymwybodol iawn fod y stryd fawr a natur siopa yn newid ond rydym yn angerddol am ei dyfodol ac yn falch iawn o wasanaethu ein cymuned.
