Siop Inc, Aberystwyth

Sefydlwyd Siop Inc nȏl yn 2004, rydym yn siop lyfrau annibynnol sy’n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg/eig, rydym hefyd yn gwerthu papurau bro a chylchgronau ynghŷd a cardiau cyfarch a phrintiau.

Siop Lyfrau Cymraeg

Gyda chasgliad mawr o lyfrau Cymraeg ar werth, gan gynnwys llyfrau newydd, ffuglen, hanes, barddoniaeth a mwy.

Anrhegion ar gyfer pob achlysur

Printiau, cardiau ac anrhegion ar gyfer pob achlysur.

Shwmae!

Sefydlwyd Siop Inc nȏl yn 2004, rydym yn siop lyfrau annibynnol sy’n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg/eig, rydym hefyd yn gwerthu papurau bro a chylchgronau ynghŷd a cardiau cyfarch a phrintiau. Rydym yn fusnes teuluol ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ac erbyn hyn rydym yn cynllunio ac argraffu nifer o gardiau cyfarch a phrintiau ein hunain. Rydym yn ymwybodol iawn fod y stryd fawr a natur siopa yn newid ond rydym yn angerddol am ei dyfodol ac yn falch iawn o wasanaethu ein cymuned.