MEHEFIN

Nerth Bon Braich – Awduron amrywiol



Nofel gywaith sy’n cynnwys gwaith saith o awduron benywaidd a ysgrifennodd bennod yr un – Sian Eirian Rees Davies, Gwen Lasarus, Rhiannon Thomas, Eurgain Haf, Caron Edwards, Annes Glyn a Janice Jones. Mae’r stori yn troi o amglych cystadleuaeth i ddod o hyd i ferch gryfa Cymru, a fydd yn ei thro yn cynrichioli Cymru mewn cystadleuaeth ar gyfer merched cryfion ledled y byd.


EBRILL

Beti Bwt gan Bet Jones



Dyma nofel am blentyndod mewn pentref chwarelydd yn ystod yr 1950au yn llais hoffus a’r diniwed Beti Bwt. Mae pob pennod yn bwrw golwg ar ryw agwedd ar fywyd Beti a’i hynwneud â gwahanol gymeriadau a defyllfaoedd o fewn cymdeithas glòs. Ceir storiau am y trip Ysgol Sul, dyfodiad y ‘telefision’ a hyd yn oed llwyddiant yn y ‘ffwtbol’. Mae’n gasgliad o hanesion bachiog a chofiadwy sy’n arwain at ddiweddglo cynnil ac annisgwyl....

Beth maer wasg yn dweud...

‘... mae’r cynildeb wrth iddi sôn am fwlio a cham-drin yn llenyddiaeth ar ei gorau...’
John Gruffydd Jones.

‘Mae hwn yn waith hynod ddarllenadwy...yn llawn disgrifiadau trawiadol... Dyma awdures a chanddi ddawn ysgrifennu digamsiynol.’
Angharad Price.


MAWRTH

Bronco gan Gwyn Thomas



Un ar ddeg o straeon byrion a geir yn y Bronco a pphob un o’r rheini yn taro deuddeg. Dyma gasgliad o straeon digri, difyr a doniol am gymeriadau bythgofiadwy fel Wynston Draciwla Dêfis, Modryb Wilhelmina Radisci, Harri Leibec,ac, yn goron ar y cyfan, yr anfarwol Ffrancestein Taliesin Ifas, sy’n fwy o gymeriadau nog o gymeriad. Mae’r hiwmor yn swrrealaidd ar brydiau, dro arall ceir sylwadau dychanol miniog ar ddiffyg gwerthoedd y gymdeithas gyfoes. Ond cyfrol wallgo’ o ddifyr ydi Bronco yn y bôn, cyfrol, chwedl yr awdur, ‘ ddarllenwyr sydd bron o’u co’.


CHWEFROR

Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts



Mam ofnus yw Llio, sy’n siarad â’r ‘Smotyn bach’ yn ei chroth. Trwy gyfrwng ei dyddiadur cawn gipolwg ar y Gymru newydd ac ar y tensiynau sydd rhyngddi hi a’i gwr, Siôn. Mae popeth sydd o bwys iddi o dan fygythiad, felly mae’n gweithredu ar frys cyn iddyn nhw ddiflannu’n llwyr. Ond fe fydd hynny’n rhoi ei bywyd hi a ‘Smotyn bach’ yn y fantol...

change language