Croeso i siopinc.com, ar y safle yma cewch gylfe i weld braslun o’r hyn sydd ar werth gennym yn ein siop yn Stryd Y Bont, Aberystwyth. Bwriad y wefan yw rhoi syniad i chi or math o nwyddau rydym yn gwerthu, rhoi cyfle i chi ddarllen adolygiadau ar amrywiaeth o lyfrau a CD’s, eich hysbysu o unrhyw ddigwyddiadu arbennig rydym yn cynnal ee sesiwn arwyddo, lansiad neu ffair lyfrau, eich hysbysu o unrhyw gynigion arbennig sydd gennym, neu eich hysbysu o unrhyw stoc newydd sy’n cyrraedd y siop, derbyn ein ‘cylchlythyr’ chwarterol drwy e-bost ynghyd a rhoi ychydig o hanes y siop i chi ac wrth gwrs cyfle i chi rhoi ychydig o adborth i ni!



Sefydlwyd siop inc yn mis Mai 2004, agorywd y drysau yn swyddogol ar Ddydd Sadwrn y 24ain wedi rhai misoedd o weld y syniad cychwynol yn troi mewn i realiti. Ers y dyddiau cynnar mae’r busnes wedi datblygu ac esblygu yn barahol, fel y mae dal i wneud. Ein nod o’r cychwyn oedd gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau Cymraeg/eig yn cynnwys llyfrau, cardiau cyfarch, crysau-t a chwys, crefftau ac anrhegion, rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein cynnyrch yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru (er nad yw hyn bob amser yn bosib) ac rydym bob amser yn chwilio am gyflenwyr newydd.

Mae’r ystod nwyddau rydym yn gwerthu wedi newid ac ehangu dros y pedair mlynedd ddiwethaf, wrth grwydro trwy’r wefan cewch syniad o’r hyn sydd gennym i gynnig. Cofiwch os hoffech unrhyw wybodaeth ychwanegol yn ymwneud ag unrhywbeth ar y wefan yma mae croeso i chi gysylltu a ni, cliciwch ar y botwm cyswllt, gallwch anfon ebost neu godi’r ffôn ac mi wnewn ein gorau i’ch cynorthwyo. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth postio cenedlaethol a rhyngwladol os ydych am archebu unrhwyebth.



Ffeiriau ac Digwyddiadau

Yn ogystal a masnachu drwy’r siop rydym hefyd yn mynychu amrywiaeth o ffeiriau / digwyddiadau allanol, rydym yn cynnal ffeiriau llyfrau mewn ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac amryw o gymdeithasau, o dro i dro rydym yn mynychu marchnadoedd a sioeau arbenigol e.e. Marchnad Nadolig Pontrhydfendigaid, Marchnad Nadolig Aberystwyth. Os oes gennych ddiddordeb cynnal ffair neu ddigwyddiad arbennig mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod mwy! Pan rydym yn cynnal ffair mewn ysgol neu gymdeithas elusennol rydym yn cynnig telerau arbennig fel bod yr ysgol / elusen hefyd yn elwa o’r digwyddiad.

Llyfrau



Prif stoc y siop yw llyfrau, rydym yn gwerthu amrywiaeth eang o deitlau sydd yn cael eu rhyddau gan y gweisg Cymreig gyda theitlau newydd yn cyrraedd y siop yn ddyddiol. Trwy glicio ar nwyddau ac yna llyfrau cewch syniad o’r amrywiaeth llyfrau sydd gennym mewn stoc.

Mae gennym adran blant arbennig yn y siop sy’n cynnwys amrywiaeth eang o lyfrau gan gynnwys llyfrau bwrdd, stori, llyfrau i ddarllenwyr cynnar ac ifanc yn ogystal a llyfrau i hybu sgiliau iaith a llythrennedd plant ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr. Rydym wedyn yn symud ymlaen yn naturiol at yr arddegau gyda dewis da o nofelau cyfoes ar gyfer bechgyn a merched, nifer fawr gan awduron Cymraeg a rhai yn addasiadau o ‘glasuron Saesneg’. Mae’r adran ffuglen yn gyfoethog iawn erbyn heddiw gyda dewis da o nofelau at ddant pawb ar gael, yn amrywio o waith gan rhai o awduron mwyaf adnabyddus a sefydlog Cymru i nofelau cyfoes mentrus gan awrduron newydd ifanc Cymru. Cofiwch gadw lygad ar ein adolygiadau a Nofel y Mis i weld beth sydd ar gael! Yn yr un modd mae’r adran cofiannau a hunangofiannau yn gyfoethog iawn gydag amrywiaeth o sêr ac enwau adnabyddus Cymru wedi cyhoeddi hunangofiannau yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym fel Cymry’n enwog am ein beirdd ac eto does dim diffyg yn yr adran yma gyda nifer fawr o gyfrolau barddoniaeth ar gael ym amrywio o gasgliadau gan feirdd unigol i gasgliadau amrywiol. Adran arall o lyfrau sy’n bwysig yn y siop yw hanes a diwylliant, yma yng Ngheredigion mae gennym gyfoeth o hanes, diwylliant a llên gwerin ac mae nifer o gyfrolau Cymraeg a Saesneg ar gael i bori trwyddo yn amrywio o hanes Dafydd ap Gwilym i Gantre’r Gwaelod. Gellir dweud yr un peth am ein hadran Hanes Cymru gydag amryfath o deitlau ar gael i’r darllenwr, dyma’r adran lle ceir y dewis pennaf or math o lyfr sydd ar gael, mae’n amrywio o lyfrynnau bach sy’n cynnwys pigion o hanes y genedl i lyfrau mawr arbenigol ar un agwedd o’n hanes i lyfrau mawr ‘bwrdd coffi’ sy’n rhoi braslun o’r hanes ir darllenydd trwy llun a gair – gwledd yn wir!

Mae hefyd gennym adran Saesneg yn y siop sy’n canolbwyntio ar y cynnyrch mae;r gweisg Cymreig yn cyhoeddi trwy’r Saesneg, o fewn yr adran fach yma gwelir y dewis mwyaf amrywiol o bosib gyda teitlau.

Os ydych yn chwilio am deitl arbennig neu os nad oes gennym stoc o’r llyfr hoffech brynu mi wnawn ein gorau i’w gyflenwi i chi mor fuan a phosib!

Cardiau Cyfarch.



Rydym yn gwerthu amrywiaeth fawr o gardiau cyfarch ar gyfer pob achlysur yn amrywio o gardiau wedi’u argraffu i waith llaw o Gymru neu brintiadau gan atristiaid adnabyddus a chardiau ffotograffiaeth. Rydym hefyd yn medru cymryd archebion ar gyfer cardiau personol a gwahoddiadau priodas / parti. Rydym hefyd yn darparu cardiau ar gyfer adegau arbennig o’r flwyddyn megis Sul Y Mamau / Tadau, Pasg, Santes Dwynwen, Dydd Gwyl Ddewi, llwyddiant arholiadau a graddio. Mae’r Nadolig yn amser arbennig or flwyddyn a rydym bob amser yn ymdrechu i ddarparu’r dewis gorau o gardiau gan gynnwys pecynnau cymysg, gan gynnwys rhai sydd yn cyfrannu tuag at elusennau megis LATCH ac Ymchwil Cancr, cardiau unigol ac wrth gwrs rhai arbennig ar gyfer y teulu.

change language