Siop inc yn Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion


Ar ddydd Sadwrn y 14 o Mehefin bydd gan siop inc stondin ar faes sioe Aberystwyth - cofiwch alw i'n gweld yno!


Penblwydd Hapus Inc!


Ar dydd Sadwrn y 24ain o Fai byddwn yn dathlu Pemblwydd siop Inc yn 4oed, cofiwch alw mewn i ymmuno yn y dathlu!!

Hwdis Joio Byw!


Yn sgil lansio ein gwefan newydd rydym hefyd wedi cynyrchu hwdis newydd i gyd-fynd a hyn, maent ar gael mewn amrywiaeth o liwiau gyda’r slogan ‘Joio Byw!’ ar y blaen a manylion siop inc ar y cefn. Maent ar werth am £17.00c yr un. Cliciwch ar ‘nwyddau’ ac yn a ‘dillad’ i weld ambell un! Os ydych yn hoffi beth ydych yn weld cofiwch alw yn y siop i weld beth sydd gennym mewn stoc.


Rhestr Hir Llyfr Y Flwyddyn.


Ar y 12fed o Fawrth cynhaliwyd seremoniau cyhoeddi Rhetsr Hir Llyfr Y Flwyddyn 2008 yng Nghaerdydd a Wrecsam, yn ôl yr arfer cyhoeddwyd 10 teitl Cymraeg a 10 teitl Saesneg, bydd rhain yn cystadlu am wobr ariannol o £10,000 yr un yn y 2 categori.

Teitlau Saesneg :
Winterton Blue gan Trezza Azzopardi
Blue Sky July gan Nia Wyn
Hector's Talent gan Kitti Harri
Trouble in Heaven gan John Barnie
Don't Cry For Me Aberystwyth gan Malcom Price
Some New Ambush gan Carys Davies
The Claude Glass gan Tom Bullough
The Presence gan Dannie Abse
Swansea Terminal han Robert Lewis
The Mater Bedroom gan Tessa Hadley

Teitlau Cymraeg :
Pryfeta gan Tony Bianchi
Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru gan Richard Wyn Jones
Hanner Cant gan Iwan Llwyd
Y Gemydd gan Caryl Lewis
Yr Ergyd Olaf gan Llwyd Olaf
Blynyddoess Y Locustiaid gan Alan Llwyd
Mae Llygaid Gan Y Lleuad gan Elin Llwyd Morgan
Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel gan Gareth Miles
Prif Weinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins
Dauwynebog gan Ceri Wyn Jones

Cyhoeddir Y Rhestr Fer o dair cyfrol Gymraeg a thair cyfrol Saesneg yn Ngwyl y Gelli Gandryll ar 26ain o Fai 2008 ac yna cyhoeddir yr enillwyr yn Seremoni Wobrwyo Llyfr Y Flwyddyn a gynhleir yng Ngwesty’r Hilton ar y 1af o Orffennaf 2008. Felly cadwch lygad i weld pwy sy’n fydd yn dod i’r brig!


Diwrnod Y Llyfr 2008.


Dydd Iau Mawrth y 6ed oedd Diwrnod Y Llyfr eleni ac yn ôl ein arfer buom yn dathlu’r diwrnod yma mewn amryw o ffyrdd, yn gyntaf bu awdures lleol sef Emily Huws yn ymweld â ysgol Llanfarian, cafodd y plant fore difyr yn ei chwmni a cyfle i brynu ei llyfrau a cael eu harwyddo ganddi ac yna cynhaliwyd cystadleuaeth gyda’r enillwyr yn ennill tocynnau llyfrau i’w gwario yn y siop. Eleni yn wahanol i flynyddoedd blaenorol mae’r dathlu yn parhau trwy’r flwyddyn gan ei bod hi’n Flwyddyn Ddarllen Cenedlaethol eleni ac hefyd mae wythnos 7 – 12fed o Orffennaf wedi’i glustnodi fel ‘Wythnos Llyfr Yn Anrheg’, felly cadwch lygad am ddigwyddiadau arbennig byddwn yn cynnal.


Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig


Wedi hir ddisgwyl cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig – Cynnig Arbennig yn y siop dros dro o £50.00 tra fod stoc yn para. (Bydd yn codi i’r pris cyhoeddi o £65.00 wedi hynny)


Gillian Elisa yn ymweld â siop inc!

Ar ddydd Iau Rhagfyr y 13 bu Gillian Elisa yn y siop yn arwyddo copiau o’u hunangofiant newydd ‘ Hyd Yn Hyn’, cafom fore hwylus gyda nifer yn ymweld â’r siop a Gillian yn llawn hwyl yn adrodd ei hanesion i bawb!


Marchnad Nadolig Y Bont

Ar yr 2ail a 3ydd o Rhagfyr mynychodd y siop Marchnad Nadolig Y Bont, eleni oedd y tro cyntaf i’r farchnad cael ei chynnal, roedd yn lwyddiant mawr gyda amrywiaeth eang o stondinau yno i gyd o dan un to ac ar y dydd Sul roedd Panto Naolig Planed Plant yno hefyd – rhywbeth i’r teulu cyfan a cyfle gwych i wneud eich siopa Nadolig!


Tocynnau Inc!


Ar ddiwedd Mis Hydref lansiwyd ‘tocynnau inc’, ar gais nifer o gwsmeriaid fu’n gofyn amdanyn nhw! Gallant cael eu gwario ar unrhyw eitem sydd ar werth yn y siop medrant cael eu gwario ar unrhywbeth o garden penblwydd i grochenwaith – yr anrheg perffaith!

change language