Martha, Jac a Sianco by Caryl Lewis : £6.95



Derbyniodd y nofel yma cryn sylw yn y wasg pan cafodd ei chyoeddi gyntaf, felly dyma mynd ati i’w darllen fy hyn i weld beth oedd rheswm yr holl sylw a chefais ddim o fy siomi chwaith. Nofel yw hon wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith gref cefn gwlad Ceredigion, yn llawn disgrifiadau pwerus a chofiadwy gyda symboliaeth yn chwarae rhan bwysig yn y nofel. Mae’r nofel wedi’i selio ar dri prif gymeriad fel mae’r teitl yn awgrymu, dau frawd a chwaer sef Martha, Jac a Sianco. Mae’r tri yn ddibriod ac dal i fyw ar y fferm deuluol Graig Ddu lle maent yn profi caledi bywyd ar y tir a’r rhwymau sydd yn eu caethiwo yno. Dilynwn hanes y tri cymeriad Martha yn gweithio’n ddiflino i gadw’r brodyr yn hapus tra o dan y wyneb mae hi’n cwato cyfrinach ddofn, yna Jac y brawd hyn sy’n byw i ffarmio nes iddo gwrdd a Judy y Saesnes sy’n gweld ei chyfle i gymryd mantais llawn ohonno ac yna y ieuengaf o’r tri, Sianco, y brawd bach diniwed sy’n cael amser caled gan Jac ac yna ei faldodi gan Martha.
Mae’r awdures yn llwyddo i gadw diddordeb y darllenydd gyda cymysgedd o hiwmor tywyll a thristwch dwys, roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi bod yn fferm Graig Ddu erbyn ddiwedd y nofel gan fod yr awdures yn llwyddo i’w bortreadu a’i ddisgrifio mor arbennig. Wrth hedfan trwy’r tudalennau cefais fy hun yn ysu am wybod beth fyddai tynged y tri er fy mod yn amau nad diweddglo hapus fyddai i’r nofel. Yn wir mi wnaeth y nofel yn ei chyfanrwydd adael cryn argraff arnaf.



tudalen dwethaf

change language